Mae perfformiadau o bantomeim blynyddol Theatr y Grand Abertawe wedi cael ei ganslo heddiw ar ôl i beipen ddŵr fyrstio.

Mae ‘Aladdin’ yn cael ei berfformio yno’n ddyddiol rhwng Rhagfyr 15 a Ionawr 14, ac roedd disgwyl perfformiadau heddiw am 2 o’r gloch a 7 o’r gloch.

Dydy llinellau ffôn y theatr ddim yn gweithio ar hyn o bryd, ac fe fydd diweddariadau’n cael eu rhoi ar eu gwefannau cymdeithasol.

Mae’n serennu’r actor Tony Maudsley (Benidorm), y consuriwr Matt Edwards (Britain’s Got Talent) a’r diddanwr lleol Kevin Johns.

Ymddiheuro

Mewn datganiad ar wefan Cyngor Abertawe, dywedodd y theatr: “Ar ôl i beipen ddŵr fyrstio a dŵr lifo i ran o’r adeilad, mae Theatr y Grand wedi colli systemau trydanol allweddol.

“Mae peirianwyr yn gweithio’n galed i sicrhau bod y theatr yn weithredol eto, ond mae perfformiadau o ‘Aladdin’ heddiw wedi cael eu canslo.

“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.”