Mae’r actor Keith Barron wedi marw’n 83 oed ar ôl salwch byr.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei gymeriad David Pearce yn y gyfres Duty Free rhwng 1984 a 1986.

Roedd hefyd wedi serennu yn y ffilm The Land That Time Forgot.

Roedd yn briod â’i wraig am 58 o flynyddoedd, ac mae hefyd yn gadael mab, Jamie sydd hefyd yn actor.