Bydd drama newydd gan Meic Povey wedi ei hysgrifennu yn arbennig ar gyfer Gŵyl Arall Caernarfon yn cael ei pherfformio’n fyw yn y dref y penwythnos hwn.

Mae’r dramodydd wedi derbyn her gan yr ŵyl i ysgrifennu drama newydd deng munud o hyd ar y thema ‘Byw’, ac fe fydd cynulleidfa fyw yn cael ei gweld yn nhafarn y Black Boy yng Nghaernarfon ddydd Sul.

Yn ôl un o drefnwyr Gŵyl Arall Caernarfon, Eirian James, mae’r sesiwn hefyd yn mynd i fod yn gyfle i glywed lleisiau newydd ym myd drama yng Nghymru.

“Mae’n gyfle i ddod â chymysgedd o ddramodwyr profiadol ac ifanc at ei gilydd i’r un llwyfan,” meddai Eirian James.

Ymysg y dramodwyr eraill sydd wedi ymgymryd â’r her yw Llyr Gwyn Lewis, Gwion Hallam, Angharad Griffiths, Gwilym Dwyfor a Rhodri Trefor.

Mae’r chwech wedi cael ychydig dros fis i lunio’r sgript, ac fe fyddan nhw’n cael eu perfformio yn y sesiwn ‘Dramau Pot Peint’ yn y Black Boy am 5.30pm ar ddydd Sul yr ŵyl.

‘Angen uchelgais’

Yn ôl Eirian James, sydd hefyd yn berchen ar siopau llyfrau Palas Print, mae’r trefnwyr eleni wedi ceisio cyflwyno pethau newydd i’r ŵyl, i adlewyrchu’r datblygiad dros y tair blynedd ddiwethaf.

“Mae’n rhaid bod yn uchelgeisiol wrth drefnu gŵyl fel hon,” meddai.

Yn ogystal â’r arlwy llenyddol arferol, sy’n cynnwys darlleniadau gan Carol Anne Duffy a Gillian Clarke, fe fydd cyfle eleni i fynd i wylio ffilmiau byrion yn y Porth Mawr, sesiynau gwrando ar gerddoriaeth gyda Dyl Mei, a gigs gan artistiaid lleol yn amrywion o’r Sibrydion i Lleuwen Steffan.  Ac mae’r digwyddiadau hyn i gyd yn cael eu cynnal o amgylch hen furiau tref Caernarfon.

“Er ein bod ni’n ceisio efelychu rhai o’r pethau gorau am Ŵyl y Gell a Gŵyl Talacharn, mae’r ŵyl hon yn driw iawn i’r ardal lle’r y’n ni,” meddai Eirian James. “R’yn ni’n chychwyn efo beth sydd yn y gymuned leol.”

Mae tocynnau i’r digwyddiad, ac i holl sesiynau’r ŵyl rhwng nos Wener 15 a nos Sul 17 Gorffennaf ar gael o wefan Palas Print, neu yn siopau Palas Print Caernarfon a Bangor.