Llwyth
Bydd Theatr Genedlaethol Gymru yn llwyfannu’r ddrama ‘Llwyth’ yng ngŵyl Caeredin dros yr haf.

Dyna fydd cynhyrchiad cynta’r Cyfarwyddwr Artistig newydd Arwel Gruffydd

wrth i’r cwmni, gyda chwmni Sherman Cymru, fynd â drama lwyddiannus Dafydd James i’r Alban.

Hon fydd y ddrama Gymraeg gyntaf i fod yn rhan o gynllun y Cyngor Prydeinig.

Bydd yn “gyfle i roi platfform ehangach a rhyngwladol i ddrama a oedd wedi bod yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru” meddai Arwel Gruffydd.

“Yn Llwyth,” meddai, “mae portread o’r Gymru gyfoes sydd efallai yn anghyfarwydd i gynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru.

“Mae hi’n dipyn o sgŵp bod sioe Gymraeg wedi’i dewis ar gyfer y showcase, a dydi hynny erioed wedi digwydd o’r blaen.”

Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 7 Gorffennaf