Nid ar chwarae bach yr aeth actores Amdani! a Macbeth a Byw Celwydd ati i gostrelu rhai o brofiadau gorau a thywyllaf ei bywyd mewn cyfrol o ysgrifau.

A hithau’n adnabyddus ar lwyfan ac ar y sgrifn fach, mae Ffion Dafis wedi “ysgrifennu’n ysbeidiol” ar hyd ei hoes, meddai, â’r diddordeb wedi’i danio ar ei chwrs Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor yn y 1990au.

Mi gafodd gynnig gan wasg Y Lolfa i ysgrifennu cyfrol o ysgrifau ac “unwaith y cychwynnais i, doeddwn i methu stopio, ac mi wnes i sylwi fod yna sgwenwr oedd eisiau dod allan”.

“Mae cansar yn fasdad”

Mae ei chyfrol, Syllu ar Walia’, yn trafod ei chariad at deulu a ffrindiau, perthynas ag alcohol a’i hanturiaethau yn teithio’r byd.

Mae’n agor ei chalon hefyd am y boen o golli ei mam i ganser pan oedd yn 26 oed ac yn darllen o’r bennod honno yma …

“Dydw i ddim wedi bod yn hapus ers y diwrnod y collais i Mam,” meddai. “Ddim yn wirioneddol hapus.

“Doeddwn i ddim yn medru dweud y geiriau ‘Mae Mam wedi marw’ am tua blwyddyn ar ôl ei marwolaeth.

“Mae cansar yn fasdad, ac mae’r ffordd mae’n dinistrio bod dynol, yn cicio’r meddwl o’r corff, yn eich gadael yn fud.”

I ferched, am ferched

Wrth ysgrifennu am ei mam, dywedodd nad oedd yn ymwybodol am y gyfrol arall, Galar a fi, sydd newydd ei chyhoeddi’n trafod yr un pwnc.

“Dw i’n gobeithio y bydd pobol yn gallu uniaethu efo rhannau ohono,” meddai am y gyfrol. “Dw i wedi ysgrifennu i ferched, am ferched.”

Mi fydd yn lansio’r gyfrol yn Gwin Dylanwad, Dolgellau nos Iau (Hydref 5); ac yna yn Y Felinheli (Tachwedd 3) ac yng Nghaerdydd (Tachwedd 10).