Mae’r actores Liz Carr, un o sêr cyfres y BBC ‘Silent Witness’, wedi derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn ymosodiad arni â siswrn.

Cafodd hi ei thrywanu yn ei phen ger gorsaf drenau Euston yr wythnos ddiwethaf.

Mae hi’n chwarae rhan y cymeriad Clarissa Mullery yn y gyfres boblogaidd, ac yn defnyddio cadair olwyn. Cafodd un sy’n gofalu amdani driniaeth yn yr ysbyty am fan anafiadau.

Cafodd dyn yn ei 20au ei arestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, yn ôl yr heddlu, oedd wedi’i gadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Mae gan yr actores gyflwr genetig sy’n golygu ei bod hi mewn cadair olwyn er pan oedd hi’n saith oed.