Lowri Jones a chriw Panto Pantycelyn wrthi'n ymarfer
Mae pantomeim arbennig yn cael ei gynnal yng Ngheredigion heno sy’n plethu rhai o faterion cyfoes y dydd gyda’r emynydd gafodd ei eni 300 mlynedd yn ôl, sef William Williams Pantycelyn.

Bwriad y panto yw dathlu cyfraniad yr emynydd gafodd ei eni yn 1717 gan ystyried pa mor berthnasol yw ei waith heddiw.

“Yn lle bod pobol oedd yn bodoli 300 mlynedd yn ôl yn cael eu gosod ar bedestal achos bod nhw mor bell i ffwrdd, ni’n trio dod i adnabod y dyn ei hunan ac yn plethu materion am Brexit a Trump i mewn i’r peth,” meddai Lowri Jones wrth golwg360, un o actorion y pantomeim heno.

Jazzo’ yr emynau

Esboniodd Lowri Jones fod y cynhyrchiad gan Theatr Gydweithredol Troedyrhiw a Chwmni Garnfach wedi addasu rhai o emynau Williams Pantycelyn a’u “gwneud nhw’n fwy cyfoes.”

“Ni wedi trio rhoi agwedd mwy cyfoes ar rai o’i emynau, naill ai eu rhoi ar donau mwy cyfoes neu jazzo nhw lan gan ddangos bod y geiriau dal yn berthnasol,” meddai gan gyfeirio at un emyn, sef Tyred Iesu i’r Anialwch.

‘Dal yn berthnasol’

“Ni’n cael ei hanes e drwy lygaid gwas y ffarm, yr anifeiliaid a gwahanol gymeriadau,” meddai gan esbonio na fydd neb yn chwarae William Williams Pantycelyn ei hun yn y cynhyrchiad.

“Ac un o’r cysylltiadau mwyaf rhwng Pantycelyn, Trump a Brexit yw bod Pantycelyn ei hunan wedi gwneud llawer o waith seiadu yn cael pobol at ei gilydd i drafod crefydd a bywyd, a bod y math yna o feddylfryd dal yn berthnasol heddiw,” ychwanegodd.

Mae’r cynhyrchiad Panto Pantycelyn yn cael ei pherfformio heno, Ebrill 11, yn Neuadd Felin-fach am 7.30yh.