Clive Jones (Llun: National Theatre Wales)
Mae un o gyn-Brif Weithredwyr newyddion a rhanbarthau ITV wedi cymryd at y rôl fel cadeirydd newydd Bwrdd National Theatre Wales.

Fe fydd Clive Jones yn dechrau ar ei waith ym mis Rhagfyr eleni ac yn olynu Phil George gafodd ei benodi’n gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Ebrill.

Mae Clive Jones a’i wraig, Vikki Heywood sy’n gadeirydd y Gymdeithas Frenhinol ar gyfer y celfyddydau, yn rhannu eu hamser rhwng Llundain a Dinbych y Pysgod.

Dywedodd Clive Jones sy’n wreiddiol o Lanfrechfa ger Pont-y-pŵl ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â gwaith National Theatre Wales ag yntau â 39 mlynedd o brofiad ym myd darlledu.

‘Arweinyddiaeth artistig’

“Rwyf wrth fy modd yn ymuno â National Theatre Wales, yr wyf wedi ei ystyried yn hir fel un o’r cwmnïau theatr mwyaf cyffrous ac arloesol yn y DU,” meddai Clive Jones.

“Mae adeiladu enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol mewn amser mor fyr yn glod i’r arweinyddiaeth artistig ysbrydoledig ac ymrwymiad y bwrdd,” meddai wedyn.

Bellach mae’n un o gyfarwyddwyr cwmni teledu yn Abertawe, Provenance Pictures, ac yn gadeirydd Pro Cam, cwmni llogi cyfleusterau teledu ym Mhrydain ynghyd ag ymgynghori’r cwmni marchnata o Efrog Newydd, Energetic Communciations.

Cyn hynny, bu’n Brif Weithredwr Newyddion a Rhanbarthau ITV tan 2007 ac mae wedi gwasanaethu fel cadeirydd ITV Cymru, Cronfa ED Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac yn gyfarwyddwr anweithredol bwrdd S4C a S4C Masnachol am bum mlynedd.

Mae hefyd wedi gweithio ym myd y theatr lle bu ar fwrdd Theatr Young Vic am 12 mlynedd tan eleni.