Mirain Jones
M
irain Jones fu’n adolygu cynhyrchiad diweddaraf Dafydd James …

Ar ôl cael fy hudo gan gynyrchiadau Dafydd James yn y gorffennol, megis ‘Llwyth’ a ‘Sue the Second Coming’, roedd gen i ddisgwyliadau uchel wrth fynd i’r Sherman wythnos diwethaf i weld ei ddrama ddiweddaraf ‘Fe Ddaw’r Byd i Ben’.

Comisiynwyd y ddrama hon gan Sherman Cymru a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer eu myfyrwyr i berfformio fel rhan o’u trydedd flwyddyn. Yn wir, ni wnaeth y ddrama fy siomi.

Dilyna’r ddrama, a gyfarwyddwyd gan Mared Swain, deulu sy’n byw ar ffarm wrth iddynt ddioddef colled, profi unigrwydd a wynebu diwedd y byd.

Dychwela un o chwiorydd y ffarm o America gyda’i gŵr at ei mam, ei dwy chwaer a Tom, ffrind gorau ei brawd sydd wedi marw. Mae’r pâr priod yn pregethu efengyl grefyddol ac yn datgan y bydd y byd yn dod i ben ac yn rhybuddio pawb i baratoi.

Crefydd a rhywioldeb

Trafoda’r ddrama themâu pwerus megis crefydd a rhywioldeb. Teimlais fod yr ysgrifennu’n wych ac yn adlewyrchu’r croestynnu rhwng crefydd a rhywioldeb yn effeithiol lle mae’r pâr crefyddol yn barnu Catrin, un o’r chwiorydd, am fod yn hoyw.

Dywed Dr Gwilym Jones ‘heb wrthdaro nid oes drama’, ac roedd y ddrama hon yn llawn gwrthdaro oedd yn hawlio sylw’r gynulleidfa o’r dechrau hyd y diwedd.

Yn ogystal â bod yn ddramatig roedd y ddrama hefyd yn cynnwys hiwmor. Rhwng y chwaer fach eisiau bod yn lleian, y fam yn cymryd ‘meow meow’ a chael lludw’r tad mewn bocs hufen ia, doedd y ddrama hon yn sicr ddim yn un arferol.

Rhaid canmol yr actorion am eu perfformiadau credadwy a difyrrus. Oherwydd fy mod wedi mynd i weld y ddrama ar ei noson agoriadol roedd ambell un wedi baglu dros eu geiriau o bryd i’w gilydd, ond ar y cyfan roedd yr actio’n safonol iawn.

Siw’n serennu

Un o’r actorion a berfformiodd yn wych oedd Siw Hughes. Mae hi eisoes yn adnabyddus am fod ar Gwaith Cartref a Pobol y Cwm, ond hwn oedd y tro cyntaf i mi ei gweld yn y theatr.

Fe dreiddiodd dan groen ei chymeriad i bortreadu gwraig weddw hoffus, doniol a gwallgof gyda ‘one liners’ cofiadwy.

Roedd Elliw Dafydd, a chwaraeai un o’r chwiorydd, hefyd wedi dal fy sylw wrth iddi actio merch unig sy’n dioddef o broblemau meddyliol yn gywrain a llwyddiannus.

Roedd y set hefyd yn wledd i’r llygaid gyda sawl dimensiwn iddi. Roedd y defnydd o lefelau yn y set yn ddiddorol a dangoswyd hynafiaeth y tŷ fferm drwy gael darnau o goed yn torri trwy waliau’r tŷ a threiddio i’r set.

Mi wnes i wir fwynhau’r ddrama hon, roedd y themâu oedd yn cael eu trafod yn ddifyr tu hwnt ac yn sicr yn gwneud i’r gynulleidfa feddwl.

Fel y dywedais, roedd gen i ddisgwyliadau uchel o’r ddrama hon cyn ei gweld ac ni chefais fy siomi. Mae Dafydd James heb os yn un o ddramodwyr gorau Cymru ar y funud ac edrychaf ymlaen at weld beth sydd ganddo i’w gynnig nesaf.

Marc: 9/10