Owen Arwyn sydd wedi’i enwebu ar gyfer yr Actor Gwrywaidd Gorau am ei ran yn y ddrama 'Pridd'.
Daeth y gwobrau newydd yma â sylw dyledus i’r byd theatrig yng Nghymru y llynedd – gyda sawl actor, cyfarwyddwr a dramodydd llwyddiannus yn hynod ddiolchgar i gynllun yr Young Critics Scheme am eu sefydlu.

Yr actor Rebecca Harries a gipiodd y wobr am yr Actor Benywaidd Gorau mewn cynhyrchiad Cymraeg y llynedd, am chwarae Marged yn Llanast!; a’r actor Simon Watts yw’r dyn aeth â hi am ei bortread egnïol yn Llwyth.

Eleni mae’r cochyn Emlyn Gomer wedi’i enwebu ar gyfer yr Actor Gwrywaidd Gorau am ei ran yn Llanast! – drama a gafodd ei hatgyfodi eleni, yn ogystal â Sion Ifan (Tir Sir Gar); Ceri Murphy (Dyled Eileen), Owen Arwyn (Pridd), a Carwyn Jones (Dim Diolch). Y merched sydd yn y ras am yr Actor Benywaidd Gorau yw Siw Huws (Trwy’r Ddinas Hon), Ffion Dafis (Anweledig), Rhian Morgan (Tir Sir Gâr), Morfudd Hughes (Cyfaill) a Rhian Morgan (Dyled Eileen).

Fe fydd dau o gewri byd drama Aled Jones Williams a Meic Povey yn mynd benben â’i gilydd am wobr y Dramodydd Cymraeg Gorau, ynghyd â Rhian Staples (Cynnau Tân), Francesca Rhydderch (Cyfaill) a Roger Williams (Tir Sir Gâr).

Mae’r enwebiadau a’r enillwyr wedi cael eu dewis gan banel yn cynnwys 22 beirniad proffesiynol a’r rhai ifanc sy’n rhan o gynllun yr Young Critics. Bydd y gwobrwyon yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar 25 Ionawr.

Cofiwch hefyd bod un wobr yn gyhoeddus – fe allwch bleidleisio am eich hoff gynhyrchiad Cymraeg isod, neu ar hafan adran Gelfyddydau Golwg360.

Fe sylwodd rhywun craff ar Golwg360 nad yw Dyled Eileen yn y ras honno – cawn weld p’un ai Cyfaill, Blodeuwedd, Tir Sir Gâr, Y Bont, neu Llanast! aiff â hi. Bydd y bleidlais gyhoeddus yn cau am 5pm Gwener, Ionawr 17.

Ond dyma’r enwebiadau yn llawn:

Cerddoriaeth a Sain

• Praxis Makes Perfect – National Theatre Wales

• Sue, The Second Coming – Dafydd James/Ben Lewis

• The Bloody Ballad – Gagglebabble

• Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru

• Chelsea Hotel – Earthfall

Goleuo

• Diary of a Madman – Living Pictures /Cegin Productions

• Pridd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Turn of the Screw – Torch Theatre

• Romeo a Juliet – Ballet Cymru

• Praxis Makes Perfect – National Theatre Wales

Cynllunio a gwisgoedd

• Sexual Perversity in Chicago – Living Pictures

• Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Sleeping Beauties – Sherman Cymru

• Salt, Root and Roe – Clwyd Theatr Cymru

• It’s a Family Affair – Sherman Cymru

Cynnwys digidol/arlein

• Chelsea Hotel – Earthfall

• Y Bont – Theatr Genedlaethol Cymru

• Love and Money – Waking Exploits

• Praxis Makes Perfect – National Theatre Wales

• Letters from Another Island – Almost Human

Addysgwr ysbrydoledig

• Raina Malik: School of Basic Islamic Studies – Sherman Cymru

• Ioan Hefin: You Should Ask Wallace – Theatr na nÓg

• Aled Jones Williams – Theatr Bara Caws

•  Amanda Gould – Foundation Phase, S.E.W. Education Achievement Service

• Elen Bowman – Theatr Genedlaethol Cymru

Cyfarwyddwr

• Arwel Gruffydd: Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Kate Wasserberg: Salt, Root & Roe – Clwyd Theatr Cymru

• Catherine Paskell: Parallel Lines – Dirty Protest

• Wils Wilson: Praxis Makes Perfect – National Theatre Wales

• Mathilde Lopez: Caligula – August 012

Rhan gwrywaidd mewn opera

• Christopher Turner: Albert Herring – Mid Wales Opera

• Marcus Farnsworth: Greek – Music Theatre Wales

• Bruce Sledge: Maria Stuarda – Welsh National Opera

• Kelvin Thomas: Eight Songs For A Mad King – Music Theatre Wales

• Gary Griffiths: Roberto Deveraux – Welsh National Opera

Rhan fenywaidd mewn opera

• Marie Arnet: Lulu – Welsh National Opera

• Gwawr Edwards: Barbwr Sefil – Opra Cymru

• Serena Farnocchia: Anna Bolena – Welsh National Opera

• Leah-Marion Jones: Roberto Deveraux – Welsh National Opera

• Alexandria Deshorties: Roberto Deveraux – Welsh National Opera

Cynhyrchiad opera

• Paul Bunyan – Welsh National Youth Opera

• Wagner Dream – Welsh National Opera

• Barbwr Sefil – Opra Cymru

• Lohengrin – Welsh National Opera

• Lulu – Welsh National Opera

Perfformiad gorau gwrywaidd yn yr iaith Gymraeg

• Emlyn Gomer: Llanast – Theatr Bara Caws

• Sion Ifan: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru

• Ceri Murphy: Dyled Eileen – Theatr Genedlaethol Cymru

• Owen Arwyn: Pridd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Carwyn Jones: Dim Diolch – Cwmni’r Frân Wen

Perfformiad gorau benywaidd yn yr iaith Gymraeg

• Siw Huws: Trwy’r Ddinas Hon – Sherman Cymru

• Ffion Dafis: Anweledig – Cwmni Fran Wen

• Rhian Morgan: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru

• Morfudd Hughes: Cyfaill – Theatr Bara Caws

• Rhian Morgan: Dyled Eileen – Theatr Genedlaethol Cymru

Cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg

• Llanast – Theatr Bara Caws

• Y Bont – Theatr Genedlaethol Cymru

• Cyfaill – Theatr Bara Caws

• Blodeuwedd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru

Cynhyrchiad i blant a phobol ifanc

• Here Be Monsters – Theatr Iolo

• Halt – Theatr na nÓg

• Dim Diolch – Cwmni’r Frân Wen

• Sleeping Beauties – Sherman Cymru

• Silly Kings – National Theatre Wales

Ensemble

• Cyfaill – Theatr Bara Caws

• Dr Frankenstein – Tin Shed Theatre Company

• Age – Re:Live

• Bianco – No Fit State

• The Bloody Ballad – Gagglebabble

Cynhyrchiad dawns ar raddfa fach

• Flights of Fancy – RCT Theatres

• Hide – Deborah Light

• The Day We Realised The World Was An Oyster – Chloe Loftus

• Chelsea Hotel – Earthfall

• Mac//beth – De Oscuro

Cynhyrchiad dawns ar raddfa fawr

• Stuck In The Mud – GDance / Ballet Cymru / Hijinx Theatre

• Noces – National Dance Company Wales

• A Midsummer Night’s Dream – Ballet Cymru

• Romeo a Juliet – Ballet Cymru

• Water Stories – Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru

Dramodydd (Cymraeg)

• Aled Jones Williams: Pridd – Theatr Genedlaethol Cymru

• Meic Povey: Man Gwyn Man Draw/Rhwng Dau Fyd – Living Pictures/Theatr Genedlaethol Cymru/Sherman Cymru

• Rhian Staples: Cynnau Tan – Sherman Cymru

• Francesca Rhydderch: Cyfaill –Theatr Bara Caws

• Roger Williams: Tir Sir Gar – Theatr Genedlaethol Cymru

Dramodydd (Saesneg)

• Greg Cullen: Fallen – Shock N Awe

• Dafydd James and Ben Lewis: Sue: The Second Coming

• Rachel Trezise: Tonypandemonium – National Theatre Wales

• Katherine Chandler: Parallel Lines – Dirty Protest

• Tim Price: Salt, Root & Roe – Clwyd Theatr Cymru

Perfformiad gwrywaidd (iaith Saesneg)

• Oliver Wood: The Bloody Ballad – Gagglebabble

• Lee Mengo: Spangled – Mercury Theatre Wales

• Robert Bowman: Diary Of A Madman – Living Pictures

• Dafydd James: Sue: The Second Coming

• Christian Patterson: Translations – Clwyd Theatr Cymru

Perfformiad benywaidd (iaith Saesneg)

• Katie Elin-Salt: Educating Rita – Clwyd Theatr Cymru

• Sara Lloyd-Gregory: Love and Money – Waking Exploits

• Lynne Hunter: Dandelion – Welsh Fargo Stage Company

• Siwan Morris: Tonypandemonium – National Theatre Wales

• Rachel Redford: Parallel Lines – Dirty Protest

Cynhyrchiad yn yr iaith Saesneg

• The Bloody Ballad – Gagglebabble

• Tonypandemonium – National Theatre Wales

• Parallel Lines – Dirty Protest

• Love and Money – Waking Exploits

• Caligula – August 012