Mae disgwyl i’r Pwyllgor Materion Cymreig gyhoeddi ymchwiliad i ddyfodol S4C heddiw.

Yn ôl papur newydd y Western Mail fe fydd ASau’r pwyllgor yn cytuno i gynnal yr ymchwiliad mewn sesiwn breifat bore ma.

Un o’r syniadau dan ystyriaeth fydd datganoli’r cyfrifoldeb dros ariannu S4C i Lywodraeth y Cynulliad.

Daw hyn wrth i AS Ceidwadwol ddweud ei fod o’n disgwyl i Lywodraeth San Steffan newid y ddeddf er mwyn ei gwneud hi’n gyfreithlon i dorri cyllideb y sianel.

Yn ôl y Western Mail roedd ‘ffynhonnell wleidyddol’ wedi cadarnhau y byddai’n “gwneud mwy o synnwyr i bobol yn y Cynulliad, sy’n gwylio ac sy’n poeni am y sianel, i fod yn gyfrifol am ei ariannu”.

“Hyd yn hyn mae S4C wedi osgoi cwestiynau anodd am ei fod o’n cael ei arian o San Steffan. Does gan neb yn yr Adran Ddiwylliant unrhyw ddiddordeb mewn darlledu Cymraeg.”

Ddoe dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Cymru, Alun Ffred Jones, bod darlledu yng Nghymru “dan warchae”.

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ei bod hi’n hen bryd i Gymru “gymryd cyfrifoldeb” dros ddarlledu Cymraeg.


Newid y ddeddf

Dywedodd AS Maldwyn, Glyn Davies, wrth y BBC heddiw ei fod o’n credu y bydd Llywodraeth San Steffan yn newid y ddeddf sy’n diogelu cyllid S4C.

Mae Peter Hain, ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid, yn ogystal a Clive Lewis QC, Prif Gwnsler Llywodraeth y Cynulliad, wedi dadlau bod deddf gwlad yn gwarchod arian S4C gan addo cynnydd sy’n unol â chwyddiant bob blwyddyn.

Dywedodd Peter Hain y gallai cwmnïau teledu annibynnol ofyn am arolwg barnwrol os bydd y Llywodraeth yn bwrw ymlaen gyda’u bwriad i dorri ar wario’r sianel.

Ond mae Glyn Davies, sy’n ysgrifennydd preifat i Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan, yn disgwyl y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi newid i’r drefn yn dilyn yr Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr yr wythnos nesaf.

Mae S4C yn wynebu toriadau rhwng 25% a 40% i’w gyllideb pan fydd yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.