Jeremy Hunt
Mae S4C wedi anfon dogfen at y Llywodraeth yn Llundain yn dangos beth fyddai effaith toriadau gwario arni.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys toriadau o 10%, 25% a 40% ac mae’r sianel yn addo y byddan nhw’n cyhoeddi cynnwys y ddogfen “maes o law”.

Yn ôl datganiad gan y sianel, ymateb i gais gan Adran Ddiwylliant y Llywodraeth yr oedden nhw ac mae yna awgrym cry’ nad ydyn nhw’n derbyn y galw am doriadau.

Mewn cyfarfod anodd yn Llundain y mis diwetha’, roedd yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi mynnu bod rhaid i S4C gynnig cynlluniau ariannol i ddelio gyda thoriadau ac roedd rhaid cyflwyno’r rheiny cyn i’r Llywodraeth wneud ei phenderfyniadau gwario terfynol.

Fe fydd canlyniadau’r rheiny’n cael eu cyhoeddi ar 20 Hydref.

Awgrym o wrthwynebiad

Mae datganiad yr Awdurdod yn galw’r ddogfen yn “ymateb technegol i gais penodol” gan yr Adran ac yn pwysleisio bod yr Awdurdod yn gweithio o fewn “fframwaith statudol”.

Mae’n ymddangos fod hwnnw’n gyfeiriad at y ddeddf a sefydlodd drefn ariannu’r sianel, sy’n gwarantu cynnydd yn ôl chwyddiant o flwyddyn i flwyddyn.

“Mae hyn yn cynnwys dyletswydd yr Awdurdod i’r gynulleidfa ac i amddiffyn y Sianel a darlledu yn yr iaith Gymraeg,” meddai’r datganiad.

Roedd y sianel eisoes wedi gorfod delio gyda dyrnod ariannol arall heddiw, wrth i BBC Cymru gyhoeddi y bydd gwerth eu rhaglenni nhw i’r sianel yn cael ei dorri o £4 miliwn y flwyddyn.