Teledu
Mae’r Gweinidog Diwylliant Jeremy Hunt wedi cael ei feirniadu am awgrymu y dylai S4C ddangos fersiynau wedi eu ‘dybio’ o raglenni Saesneg.

Mae’n debyg bod Jeremy Hunt wedi awgrymu y byddai’n rhatach i S4C ddybio rhaglenni Saesneg na chreu ei rhaglenni ei hun mewn cyfarfod yn y Celtic Manor dydd Sadwrn.

Byddai pobol sydd eisiau gwylio rhaglenni yn y Gymraeg yn gallu gwasgu’r ‘botwm coch’ ar eu setiau teledu er mwyn newid o’r Saesneg i’r Gymraeg.

Dywedodd Menna Machreth, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, fod yr awgrym yn un “gwallgo” ac yn “sarhad ar yr iaith Gymraeg a Chymru gyfan.”

‘Dinistrio’ S4C

Mae S4C yn disgwyl wynebu toriad o tua 25% i’w cyllideb pan fydd Adolygiad Gwario Cynhwysfawr y llywodraeth yn San Steffan yn cael ei gyhoeddi ar 20 Hydref.

Roedd y Gweinidog Diwylliant, Alun Ffred Jones, ymysg y gwleidyddion fu’n cwrdd â Jeremy Hunt yn ystod y Cwpan Ryder.

Dywedodd wrth bapur newydd y Western Mail y gallai cymryd “talp mawr” o arian S4C “ddinistrio” y sianel.

“Mae’n bwysig peidio brysio a dad wneud y pethau da mae S4C wedi eu gwneud,” meddai. “Fe allai toriadau o’r maint yna wneud difrod mawr i’r sianel.”

Ychwanegodd nad oedd o’n teimlo bod y mis yr oedd y sianel wedi ei gael gan Adran Diwylliant y llywodraeth yn Llundain er mwyn creu cynllun ariannol wedi bod yn ddigon.

“Beth ddywedais i wrtho oedd nad oedd o’n gallu disgwyl cynllun mewn mis, o ystyried cymhlethdod y sefyllfa,” meddai.