Menna Machreth
Mae Cymdeithas yr Iaith yn bygwth cynnal protestiadau tor cyfraith yn erbyn bwriad y Llywodraeth yn Llundain i dorri ar arian S4C.

Mewn llythyr agored at yr Ysgrifennydd Treftadaeth, maen nhw’n dweud y byddai’r math o doriadau sy’n cael eu trafod yn gwneud difrod mawr i’r iaith Gymraeg.

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Menna Machreth yn dweud y bydd y mudiad yn dilyn tactegau tebyg i’r rhai di-drais a ddefnyddiwyd yn yr ymgyrch i sefydlu’r sianel

Ymgyrchoedd y 70au

Ymgyrchoedd uniongyrchol gan y Gymdeithas yn yr 1970au oedd yn rhannol gyfrifol am ennill y frwydr i greu S4C – bryd hynny, fe fu aelodau’n dringo mastiau teledu ac yn torri offer darlledu yng Nghymru a thros y ffin.

Ar hyn o bryd, mae’r Adran Dreftadaeth yn Llundain yn dweud nad oes unrhyw benderfyniadau wedi eu gwneud ynglŷn â maint toriadau ond mae’r papurau newydd wedi bod yn sôn y gallai grant S4C fynd o £100 miliwn y flwyddyn i £76 miliwn o fewn pedair blynedd.

Yn ystod y dyddiau diwetha’, fe rybuddiodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y byddai’n rhaid i’r sianel dderbyn rhywfaint o doriadau.