Iona Jones
Mae S4C wedi gwrthod gwneud sylw ar adroddiadau bod cyn Brif Weithredwr y sianel yn dwyn achos o ddiswyddo annheg yn ei herbyn.

Mae cylchgrawn Golwg wedi cael ar ddeall bod Iona Jones wedi dechrau achos ar ôl iddi gael ei diswyddo’n sydyn ddiwedd Gorffennaf.

Mae’r cylchgrawn yn chwilio am gadarnhad swyddogol bod Iona Jones wedi cyflogi cwmni o gyfreithwyr o Lundain, sydd â phrofiad mewn achosion amlwg o’r fath.

Gwrthod esbonio

Ers bron fis bellach, mae S4C wedi bod yn gwrthod rhoi unrhyw esboniad o’r hyn ddigwyddodd pan gafodd y Prif Weithredwr ei diswyddo – doedden nhw ddim hyd yn oed yn fodlon cadarnhau mai achos o ddiswyddo oedd hwn.

O fewn y diwydiant, mae pobol yn sôn fod y penderfyniad wedi ei wneud mewn cyfarfod o Awdurdod y sianel ddydd Mawrth, Gorffennaf 27, a bod Iona Jones wedi cael gorchymyn i adael y diwrnod wedyn.

Dyw hi ddim wedi bod ar gael i wneud unrhyw sylw ar y mater ond mae natur y gweithredu a’r diffyg esboniad wedi cael ei gondemnio gan wleidyddion a ffigurau dylanwadol fel ei rhagflaenydd, Huw Jones.

Tros dro

Ar hyn o bryd, mae’r cynhyrchydd annibynnol profiadol a’r cyn uchel swyddog yn y BBC, Arwel Ellis Owen, yn Brif Weithredwr dros dro ac yn arwain ymgyrch y sianel i ddiogelu ei hun rhag toriadau ariannol llym.

Tros y Sul, fe gynhaliodd S4C ddiwrnod o weithdai gyda chynhyrchwyr annibynnol er mwyn trafod tactegau’r frwydr honno. Maen nhw hefyd yn sôn am geisio crynhoi cefnogaeth wleidyddol, gan ddadlau bod y sianel yn ‘achos arbennig’.