Alun Ffred Jones
Mae torri cyllideb S4C yn enghraifft arall o’r Ceidwadwyr yn disytyru’r Gymraeg, yn ôl y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones.

Mae cyllideb S4C wedi ei thorri gan £2 filiwn, a hynny heb ymgynghoriad na rhybudd.

“Dyw hwn ddim yn symudiad positif,” meddai Alun Ffred Jones, sy’n gyn-gynhyrchydd teledu.

“Tra dylai pawb rannu’r baich, y ffaith yw mai S4C yw’r unig ddarlledwr trwy gyfrwng y Gymraeg ac felly mae mewn safle unigryw –a dydy o ddim yn cael ei drin felly gan y Llywodraeth hwn.”

Yr halen ar y briw, yn ôl Alun Ffred, oedd bod y ddau AS Ceidwadol newydd, Alun Cairns a Guto Bebb, wedi mynnu ar Radio Cymru yn ystod yr ymgyrch etholiadol na fyddai cyllideb S4C yn dioddef dan Lywodraeth Geidwadol.

“Un ai roeddan nhw’n dweud hynny heb wybod dim byd, a ddylian nhw ddim fod wedi’i ddweud o, neu maen nhw wedi methu perswadio’r Trysorlys, Cheryl Gillan neu bwy bynnag, i ymladd cornel Cymru…. Ond dydy hi [y Llywodraeth newydd] ddim wedi dechrau’n addawol.”

Ofni gwaeth i ddod wrth i S4C golli £2 filiwn

Mae S4C wedi dweud y bydd yn ceisio sicrhau na fydd y toriad o £2filiwn yng nghyllideb y Sianel eleni yn cael unrhyw effaith ar wasanaethau i wylwyr.

Ond dywed y Prif Weithredwr, Iona Jones, y bydd angen ail ystyried agweddau eraill o gynlluniau strategol y sianel at y dyfodol os fydd rhagor o doriadau yn y blynyddoedd nesaf.

“Dw i’n credu bod y ffaith bod y cyhoeddiad mor agos at etholiad cyffredinol yn rhywfaint o syndod, “ meddai “ond do’n i ddim yn dychmygu bod S4C yn wahanol i gyrff eraill.

“Un o’r blaenoriaethau yw ceisio sicrhau na fydd effaith y toriad i’w deimlo o fewn un mis a’n bod yn edrych arno dros gyfnod o 6-9 mis er mwyn lleddfu ei effaith.”

Roedd Iona Jones yn pwysleisio y byddai’r ymrwymiadau i gomisiynau sydd eisoes yn eu lle yn cael eu hanrhydeddu tan ddiwedd Mawrth 2011.