John Walter Jones
Mae cadeirydd S4C wedi cyfaddef fod y sianel yn paratoi i dderbyn llai o gyllid gan Lywodraeth Prydain ym mis Tachwedd.

Wrth siarad â phapur newydd y Guardian, dywedodd John Walter Jones fod angen datblygu’r ddarpariaeth, yn benodol y gwasanaeth ar y wê.

“Does neb yn gallu osgoi toriadau,” meddai John Walter Jones, wrth gyfeirio at y toriadau o £6 biliwn mewn gwariant cyhoeddus y mae’r Canghellor newydd, George Osborne, am ei weld.

“Beth am wynebu hynny os a phryd y bydd yn digwydd,” meddai.

Beirniadaeth

Daw’r bygythiad o doriadau ar amser anodd i S4C, ar ôl i bapur newydd y Western Mail gyhoeddi ffigurau gwylio isel iawn i’r sianel yn y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Mawrth eleni.

Mae S4C yn derbyn grant o £100 miliwn y flwyddyn, a chymhorthdal ychwanegol o £25 miliwn drwy raglenni sy’n cael eu cynnig gan BBC Cymru Wales, sy’n cynnwys y newyddion a’r opera sebon, Pobol y Cwm.