Fe fydd nifer o weithwyr yn colli eu gwaith yn S4C, gyda’r posibilrwydd y bydd rhai’n cael eu diswyddo’n orfodol.

Fe gafodd cyfarfodydd eu cynnal gyda “staff dethol” ddoe ac mae Prif Weithredwr y sianel wedi anfon neges at gwmnïau teledu yn rhoi gwybod iddyn nhwthau.

Dyw hi ddim yn glir eto faint o swyddi sy’n mynd, ond mae Iona Jones yn dweud bod y penderfyniad yn dilyn “adolygiad manwl”.

Mae hi’n dweud mai’r gobaith yw y bydd digon o bobol yn gwirfoddoli i fynd neu’n ymddeol yn gynnar ond mae’n rhybuddio hefyd y gallai fod angen diswyddo pobol.

“Fe fydd hi’n gyfnod o ansicrwydd i nifer o aelodau staff,” meddai, cyn pwysleisio, “mae ein golygon yn parhau ar sicrhau fod S4C yn darparu’r gwasanaeth gorau posib i gynulleidfaoedd”.

Fe fydd y staff sy’n gorfod mynd yn cael clywed am swyddi newydd sydd ar gael “er mwyn i unigolion gael ystyried dewisiadau posib”.

Gofynnodd Golwg 360 wrth S4C faint o staff oedd yn debygol o golli eu gwaith, ond dywedodd S4C na fydden nhw’n gwneud unrhyw sylw pellach.

“Mae S4C yn cadarnhau ei fod yn gwahodd ceisiadau am ddiswyddo gwirfoddol neu ymddeoliad cynnar mewn rhai rhannau o’r busnes. Mae’r broses ar waith ac felly ni fydd sylw pellach ar hyn o bryd.”