Llynedd, ymddangosodd yr actor Iwan John a’r cerddor Steffan Rhys Williams ar raglen ‘Drych: Aros am Aren’ ar S4C i siarad am eu profiad o drosglwyddo aren o’r naill gyfaill i’r llall.

Gydag un o arennau Iwan John wedi methu’n llwyr, a’r llall yn dirywio, roedd y rhaglen yn dilyn bywyd yr actor wrth iddo aros am drawsblaniad.

Creu comedi newydd

Ddiwedd yr wythnos hon mi fydd Iwan a Steffan ar S4C unwaith eto, ond yn cyflwyno cyfres newydd o’u rhaglen gomedi, ‘Hyd y Pwrs’.

“Mi fu’r hwyl o greu’r gyfres yn help i gynnal fy ysbryd i drwy’r flwyddyn anodd a aeth heibio” meddai Iwan John.

Yn ymuno â nhw fydd Dion Davies, Rhodri Evan, Aeron Pugh a Rolant Prys.

Mae’r perfformwyr i gyd wedi cyfrannu at y broses ysgrifennu a chreu, ac yn ôl y tîm cynhyrchu, Euros Lewis a Rhys D Williams, mae’r fenter o ymddiried yng nghreadigrwydd Iwan a’r criw yn allweddol i egni a gwreiddioldeb y bedair rhaglen.

Yn ymuno â chwmni ‘Hyd y Pwrs’ mae un neu ddau o brif selebs S4C yn chwarae eu hunain. Ond mae llawer mwy ohonyn nhw’n ymddangos trwy ddychan drygionus Iwan a’r criw.

Mae Iwan John yn gobeithio y “bydd gwylio Hyd y Pwrs’ yn help i gynnal ysbryd gwylwyr S4C drwy’r cyfnod anodd hwn nawr.”

Bydd y bennod gyntaf o bedair yn cael ei darlledu ar S4C, nos Sadwrn, 11 Ebrill am 9 o’r gloch.