Mae’r gyflwynwraig deledu Caroline Flack wedi marw’n 40 oed.

Cafodd y newyddion ei gadarnhau mewn datganiad gan ei theulu, sy’n gofyn am breifatrwydd.

Daeth cadarnhad gan ei chyfreithiwr iddi ladd ei hun, ac i’w chorff gael ei ddarganfod yn ei fflat yn Llundain.

Mae hi’n adnabyddus fel cyflwynwraig y cyfresi Love Island a The X Factor, ac enillodd hi’r gyfres Strictly Come Dancing yn 2014.

Roedd disgwyl iddi fynd gerbron llys ymhen rhai wythnosau, wedi’i chyhuddo o ymosod ar ei chariad, ond roedd e’n gwrthod rhoi tystiolaeth yn ei herbyn yn dilyn ffrae.