Fe fydd chwech o ffilmiau Richard Burton yn cael eu dangos mewn sinema yn Abertawe fel rhan o ŵyl newydd sy’n dathlu bywyd yr actor Hollywood o Bontrhydyfen.

Bydd chwe ffilm yn cael eu dangos yn wythnosol bob nos Lun yn Cinema & Co fel rhan o bartneriaeth rhwng Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe, Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton ac arddangosfa ‘Bywyd Richard Burton’ yr Amgueddfa Genedlaethol.

Y ffilm gyntaf i gael ei dangos fydd Equus nos Lun yma (Chwefror 17) ac fe fydd cyflwyniad byr yn agor pob dangosiad.

Ymhlith y rhai fydd yn siarad mae’r hanesydd, yr Athro Martin Johnes a’r arbenigwr ffilm Dr Nicko Vaughan.

Y ffilmiau eraill fydd yn cael eu dangos yw The Spy Who Came in from the Cold (Chwefror 24), The Exorcist 2 (Mawrth 2), Cleopatra (Mawrth 9), Taming of the Shrew (Mawrth 16) a 1984 (Mawrth 23).

“Y tu hwnt i’r bywyd a’r dyddiaduron, mae yna gorff o waith a adawodd Burton ar ei ôl,” meddai’r Athro Daniel Williams, Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton.

“Rwy’n falch iawn bod nifer o fy nghydweithwyr wedi cytuno i gyflwyno’r ffilmiau hyn wrth i ni geisio asesu’r gwaith hwnnw, a’i gadw’n fyw.”