Mae cymeriad Doctor Who yn cael ei bortreadu fel gwraig groenddu am y tro cyntaf mewn dros hanner canrif o’r rhaglen deledu.

Mae rhifyn diweddara’r gyfres ar y BBC wedi dadlennu mai’r actores Jo Martin fydd y ‘Time Lord’ nesaf, a hynny mewn cyhoeddiad annisgwyl.

Fe ddaeth y cymeriad i fod o flaen llygaid y Doctor presennol, Jodie Whittaker, mewn golygfa o’r rhaglen lle mae’r actores newydd yn cyhoeddi “I’m the doctor”.  Jodie Whittaker oedd y fenyw gyntaf i chwarae rhan Doctor Who.

Ond mae penodiad Jo Martin yn gwneud Doctor Who yn fenyw groenddu – y tro cyntaf mewn 57 mlynedd i’r cymeriad beidio bod yn wyn.