Mae Erin Mai, cynrychiolydd 13 oed Cymru yn Junior Eurovision eleni, yn dweud iddi gael “profiad anhygoel”.

“Fe wnes i fwynhau bob eiliad!” meddai’r ferch o Lanrwst, sy’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Conwy.

Cafodd hi’r cyfle i gynrychioli Cymru yn Gliwice yng Ngwlad Pwyl ar ôl ennill y gyfres Chwilio am Seren Junior Eurovision yn gynharach eleni.

Canodd hi’r gân ‘Calon yn Curo’ o flaen mwy na 30 o aelodau o’i theulu a’i ffrindiau, gan orffen yn ddeunawfed allan o 20.

Gwlad Pwyl enillodd y gystadleuaeth.

“Mae’r holl brofiad fel breuddwyd wedi dod yn wir,” meddai.

“Wnes i fyth meddwl faswn i ar lwyfan enfawr y  Junior Eurovision.

“Mae’r holl beth yn anferth – y llwyfan, y colur, y gwallt, y golau a’r cannoedd o staff gefn llwyfan.

“Dwi’n teimlo mor lwcus i gael profiad fel hyn.

“Diolch o galon i bawb sydd wedi pleidleisio ac sydd wedi fy nghefnogi bob cam o’r ffordd. Wna i fyth anghofio’r profiad yma.”

Cyfle euraid

“Mae’r gystadleuaeth hon wedi rhoi llwyfan rhyngwladol i Gymru ac i S4C,” meddai Elen Rhys, Comisiynydd Cynnwys y sianel.

“Rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyfle euraid i seren ifanc gael disgleirio a chwifio baner Cymru a’r iaith Gymraeg  o flaen cynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop.”