Bydd trigolion Llanrwst yn cael cyfle i leisio’u barn am raglenni a gwasanaethau S4C mewn digwyddiad cyhoeddus fis nesaf.

Bydd y sianel yn cynnal Noson Gwylwyr yng Nghanolfan Glasdir ar nos Fawrth (Rhagfyr 3, 7 o’r gloch).

Bydd sawl aelod o dîm rheoli a staff S4C yno i wrando ar sylwadau’r gwylwyr, gan gynnwys y prif weithredwr Owen Evans, y Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys Amanda Rees, y cadeirydd dros dro Hugh Hesketh Evans a nifer o gomisiynwyr cynnwys y sianel.

“Mae S4C yn wasanaeth darlledu cyhoeddus felly mae’n hanfodol ein bod ni’n gwrando ar lais y gwylwyr,” meddai Hugh Hesketh Evans.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r cyhoedd i Ganolfan Glasdir i gael trafodaeth onest ac agored am raglenni a gwasanaethau’r sianel, ac i glywed beth fydden nhw’n dymuno gweld yn y dyfodol.”