Mae ffilm am Iddew hoyw sy’n byw bywyd cyfrinachol yn Los Angeles wedi cipio Gwobr Iris eleni.

Ffilm Americanaidd 15 munud o hyd yw Black Hat, sydd wedi’i hysgrifennu gan Phillip Guttmann a’i chyfarwyddo gan Sarah Smith.

Shmuel yw’r prif gymeriad, Iddew sy’n byw bywyd digon syml, yn gweddïo’n rheolaidd mewn synagog ac yn berchen siop sychlanhau dillad.

Ond mae ei fywyd yn mynd i gyfeiriad gwahanol wrth i’w wraig a’u merched adael y dref am ychydig ddiwrnodau.

Wrth iddo golli ei het ddu, mae ei ‘ddau’ fywyd yn cyd-daro.

Cyrhaeddoddd D.Asian, ffilm arall gan Sarah Smith, y rhestr fer ar gyfer Gwobr Iris yn 2015.

Mae’r enillydd yn derbyn £30,000 fel rhan o wobr sy’n cael ei noddi gan Sefydliad Michael Bishop, gyda’r arian yn mynd at brosiect nesa’r enillydd yng ngwledydd Prydain.

Dyfarnu’r wobr hon yw penllanw’r ŵyl ffilm fu’n rhedeg ers dydd Mawrth (Hydref 8), ac mae’n dathlu byd ffilmiau LGBT+.

Roedd 36 o ffilmiau’n cystadlu am y brif wobr eleni.