Y cynhyrchydd drama, Bethan Jones, ac un o benaethiaid Lucasfilm, Lynwen Brennan, fydd yn derbyn gwobrau arbennig BAFTA Cymru eleni.

Bydd Bethan Jones, sy’n enwog am gynhyrchu cyfresi drama fel Les Miserables, Sherlock a War and Peace, yn derbyn Gwobr Siân Phillips.

Mae Lynwen Brennan yn cael ei hanrhydeddu am ei chyfraniad i faes ffilm a theledu.

Bydd y ddwy yn derbyn eu gwobrau yn seremoni BAFTA Cymru yng Nghaerdydd ar Hydref 13.

Dywedodd Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru: “Mae Pwyllgor BAFTA Cymru yn dewis yr unigolion hynny sydd ar frig eu gyrfaoedd rhyngwladol ac sy’n llysgenhadon gwych i Gymru a’r diwydiannau creadigol i dderbyn ein Gwobrau Arbennig.”

Bethan Jones

Bethan Jones yw’r pymthegfed person i dderbyn Gwobr Siân Phillips.

Ar ôl cyfnod yn gweithio fel actor a chyfarwyddwr ar ei liwt ei hun, ymunodd Bethan Jones â BBC Wales yn 2002 fel cynhyrchydd yn gyfrifol am ddramâu lleol, fel Pobol y Cwm a Baker Boys.

O 2005 ymlaen, fel Cynhyrchydd Gweithredol yn Adran Ddrama BBC Cymru Wales, gweithiodd ar nifer o raglenni drama unigol, gan gynnwys Merlin, Sherlock, A Poet in New York ac Aberfan.

Ers 2017, mae Bethan Jones wedi bod yn gweithio fel cynhyrchydd ar ei liwt ei hun, ac yn ddiweddar bu’n gyfrifol am gynhyrchu addasiad Andrew Davies o Les Miserables ar gyfer y BBC.

“Rydw i wedi edmygu Siân Phillips ar hyd fy oes, ac mae’n fraint enfawr cael fy nghynnwys yn y rhestr glodwiw o dderbynyddion y wobr hon sy’n dwyn ei henw,” meddai Bethan Jones.

Lynwen Brennan

Mae Lynwen Brennan yn goruchwylio ochr busnes cwmnïau Lucasfilm, Industrial Light & Magic a Skywalker Sound.

Dechreuodd ei gyrfa gyda Lucasfilm ym 1999, cyn cael ei phenodi’n Llywydd Industrial Light & Magic yn 2009. Cafodd ei dyrchafu’n Rheolwr Cyffredinol ac Is-Lywydd Gweithredol Lucasfilm yn 2015.

Cyn ymuno â Lucasfilm, bu Lynwen Brennan yn gweithio ym maes datblygu meddalwedd effeithiau gweledol.

“Mae’n anrhydedd mawr a braidd yn swrrealaidd i gael gwobr mor fawreddog gan BAFTA Cymru,” meddai’r ferch o Benalun, sir Benfro.

“Dw i’n falch iawn o fod yn Gymraes, a doeddwn i byth wedi dychmygu y byddwn yn cael fy anrhydeddu yn y fath fodd gan y diwydiant a’r wlad sydd mor agos at fy nghalon.”