Nua Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn “nefoedd” i ddysgwyr, ac mi ddylen nhw fanteisio’n llwyr ar y cyfle eleni.

Dyna farn Nia Parry, cyflwynwraig a chynhyrchydd teledu a ddechreuodd ei gyrfa yn diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd.

“Mae o’n nefoedd i unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg,” meddai wrth golwg360.

“Dim ots lle ti’n byw – hyd yn oed yng nghanol y Fro Gymraeg – rwyt ti’n dal yn gorfod chwilio am rwydwaith.

“Rwyt ti’n gorfod chwilio am bobol i siarad efo nhw. Ond lle arall alli di fynd lle am wythnos gron… rwyt ti’n medru siarad Cymraeg?…

“I ddysgwyr, mae’n nefoedd. Mae’n gyfle mor dda iddyn nhw ymarfer a chlywed yr iaith o’u cwmpas.”

Blas ar bopeth

Mae Nia Parry yn annog dysgwyr i ymweld â phabell y dysgwyr Maes D, ac mae’n dweud ei fod yn gyfle da i ddyn nhw wneud ffrindiau.

Ond mae hefyd yn awgrymu iddyn nhw “beidio ag aros yn y lle saff” hwnnw, ac yn argymell eu bod yn profi pob elfen  o’r maes.

“Fy nhip i yw siarad gyda chymaint o wahanol bobol am bob math o wahanol bethau a fedrwch chi …,” meddai.  

“Dw i’n meddwl ei fod yn beth neis cael ychydig bach o flas ar bopeth. Yna rydych yn dod yna yn teimlo eich bod wedi cael profiad eisteddfodol llawn.”

“Newyddion cyffrous”

Cafodd Nia Parry eu magu yn Llandrillo-yn-rhos yn Sir Conwy, ac mae’n dweud ei fod yn “grêt” bod y brifwyl yn ymweld â’r sir honno.

“Mae’n newyddion cyffrous iawn,” meddai. “Mae pawb yn y sir yn weithgar iawn. Ar hyn o bryd dw i’n byw yng Ngwynedd. Ond mae mam a dad yn dal i fyw yn Llandrillo yn Rhos.

“Mae jest yn neis gweld bod yna gymaint o fwrlwm, a chymaint o groeso i’r Eisteddfod.”

Mae gan y gyflwynwraig “pob math o wahanol bethau ar y gweill” ar y maes, ac mi fydd yn cyfrannu at gystadleuaeth dysgwr y flwyddyn.