Mae cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol wedi galw ar bobol i ddod i’r Maes yn hytrach na gwylio’r arlwy ar y sgrîn.

Fe ddaeth galwad Trystan Lewis ar ddydd Sadwrn cynta’r Brifwyl yn Llanrwst.

“Mae pawb sydd wedi dod i’r Maes yn dweud bod yna ymdeimlad braf yma, yr awyrgylch,” meddai.

“Fedrwch chi ddim costrelu hwnna mewn botel neu ei drosglwyddo ar sgrîn, felly faswn i’n annog ar ddechrau wythnos Eisteddfod fel hyn i bobol ddod i sawru ac i brofi’r hyn sydd ar gael, dros fil o ddigwyddiadau.

“Mae’n bwysig bod pawb, o unrhyw genedl dan haul yn ogystal â ni’r Cymry, yn dod i brofi’r arlwy yma, sef penllanw gwaith caled pobol leol ynghyd â swyddogion yr Eisteddfod.”

‘Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus’

Mae’n annog pobol i ddefnyddio’r trafnidiaeth gyhoeddus i’r Maes yn hytrach na defnyddio’u ceir,” meddai wedyn.

“Mae’r ddarpariaeth yn ardderchog o ran y bysus a’r trenau.

“Mae’r lein i fyny o Landudno i fyny Dyffryn Conwy yn ogoneddus ac mae’n bwysig ein bod ni’n manteisio arni.”