Mae’r BBC wedi cyhoeddi mai Motsi Mabuse fydd yn ymuno a’r panel o feirniaid yn y gyfres deledu Strictly Come Dancing.

Motsi Mabuse, 38 oed, yw chwaer hŷn y ddawnswraig Oti Mabuse, sydd wedi bod yn un o ddawnswyr proffesiynol y gyfres ers 2015.

Mae Motsi Mabuse wedi bod yn feirniad ar fersiwn yr Almaen o Strictly Come Dancing, Let’s Dance ers 2011 ar ôl ymuno a’r sioe fel dawnswraig yn 2007.

Mewn datganiad dywedodd ei bod “wrth ei bodd” i gael ymuno a’r panel o feirniaid.

Fe fydd hi’n olynu’r Fonesig Darcey Bussell a gyhoeddodd ym mis Ebrill ei bod yn camu o’r swydd ar ôl saith mlynedd ar y panel.