Mae’r actor William Simons, a gafodd ei eni yn Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd, wedi marw’n 79 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad PC Alf Ventress yn Heartbeat ar ITV, gan ymddangos ym mhob cyfres rhwng 1992 a 2010.

Ar ôl dechrau ffilmio’r gyfres, fe symudodd e a’i wraig, Janie, i bentref Goathland yn Swydd Efrog, lle cafodd cryn dipyn o’r cyfresi eu ffilmio.

Cafodd ei eni yn Abertawe, gan fentro i’r llwyfan am y tro cyntaf yn ddeg oed, ac fe aeth yn ei flaen i gael gyrfa lwyddiannus ar y sgrîn am chwe degawd.

Fe fu’n rhannu llwyfan â nifer o actorion blaenllaw yn ystod ei blentyndod, gan gynnwys Bill Owen a Dinah Sheridan.

Yn oedolyn, roedd yn aelod o gwmni theatr The Stables, cwmni a gafodd ei sefydlu ym Manceinion gan Granada Television.

Ymhlith y cyfresi cynharaf yr ymddangosodd ynddyn nhw mae Coronation Street a Crown Court.

Ymddangosodd mewn nifer o gyfresi eraill, gan gynnwys Last of the Summer Wine, Bergerac, Lovejoy a The Darling Buds of May.

Bu farw ei wraig gyntaf, Janie, yn 2002, ac mae’n gadael ei ail wraig, Jackie.

Roedden nhw’n treulio cryn dipyn o’u hamser yn eu cartref yn Ffrainc.