Mae’r actores Hollywood, Doris Day wedi marw yn 97 oed.

Bu farw yn ei chartref yng Nghaliffornia ar ôl bod yn dioddef o niwmonia.

Daeth i amlygrwydd mewn ffilmiau yn y 1950au a’r 60au, fel Calamity Jane, Pillow Talk gyda Rock Hudson, a That Touch Of Mink yn ogystal a chaneuon fel Whatever Will Be, Will Be (Que Sera, Sera).

Ym 1967, fe gyhoeddodd ei hunangofiant Doris Day: Her Own Story oedd yn son am ei thrafferthion ariannol, a’i thair priodas.

Yn fwyaf diweddar fe fu’n ymgyrchu dros hawliau anifeiliaid.