Olivia Colman oedd brenhines y Baftas neithiwr (nos Sul, 10 Chwefror) wrth i’r ffilm The Favourite gipio saith gwobr yn seremoni wobrwyo’r Baftas.

Fe lwyddodd Olivia Colman i guro Glenn Close, Lady Gaga, Melissa McCarthy a Viola Davis i gipio’r wobr am yr Actores Orau am ei rôl fel y Frenhines Anne yn y ddrama gyfnod.

Roedd The Favourite hefyd wedi ennill gwobr y ffilm orau yng ngwledydd Prydain gyda Rachel Weisz hefyd yn cipio’r wobr am yr actores gynorthwyol orau, a phedair gwobr arall gan gynnwys dwy am y gwisgoedd a’r sgript.

Cyn y seremoni, roedd y ffilm wedi’i henwebu am 12 gwobr.

Roma, y ffilm du a gwyn am fywyd Alfonso Cuaron yn Ninas Mecsico enillodd y wobr am y ffilm orau a’r ffilm orau sydd ddim yn Saesneg, yn ogystal â’r cyfarwyddwr a’r ffilmiwr gorau.

Rami Malek a enillodd y wobr am yr actor gorau am ei rôl fel Freddie Mercury yn y ffilm Bohemian Rhapsody, tra bod Mahershala Ali wedi ennill y wobr am yr actor cynorthwyol gorau am Green Book.

Cafodd y golygydd ffilm Thelma Schoonmaker, sydd wedi gwneud 23 ffilm gyda Martin Scorsese, ei hanrhydeddu gan yr Academi a’i chyflwyno gyda’r wobr gan Ddug Caergrawnt ar ddiwedd y seremoni yn Llundain.