Mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed ar y bennod ddiweddaraf o Star Trek sydd ar gael o heddiw (Dydd Gwener, Chwefror 8) ymlaen ar Netflix.

Roedd Ioan Talfryn, sy’n dysgu Cymraeg i oedolion, yn gwylio pedwaredd bennod yr ail gyfres pan glywodd y Gymraeg yn cael ei siarad, a hynny rhyw ddeng munud i mewn i’r rhaglen.

Saesneg yw’r iaith arferol ar Star Trek “achos bod ganddyn nhw rywbeth o’r enw universal translator yno,” esbonia Ioan Talfryn wrth golwg360, “ond yn sydyn iawn yn y bennod newydd, mae pawb yn dechrau siarad pob math o ieithoedd.

“Maen nhw’n siarad Eidaleg, Sbaeneg, Ffrangeg ac yn y blaen – ac yn sydyn iawn mae’r boi yma’n dechrau siarad Cymraeg,” meddai.

Ar waelod y sgrin mae is-deitlau yn dweud “speaking in Welsh” tra mae cymeriad yn dweud rhyw ddwy frawddeg yn Gymraeg cyn gorffen gyda: “Dyma ddigwyddodd BANG!”

Miliynau yn gwylio

Mae cael y Gymraeg ar Star Trek yn arwyddocaol iawn wrth ystyried y miliynau o bobol sy’n gwylio Netflix, a hynny ar draws y byd, yn ôl Ioan Talfryn.

“Mae’r Gymraeg wedi bod mewn ffilmiau a ballu, ond dyw pobol yn aml ddim yn sylweddoli mai Cymraeg ydy o,” meddai.

Yn wir, mae’r Gymraeg i’w chlywed ar ddechrau’r ffilm Empire of the Sun, ac roedd iaith yr Elves ar ffilmiau Lord of the Rings, o lyfr J. R. R Tolkien, wedi ei seilio ar y Gymraeg.

“Mae’r ffaith bod Netflix yn America wedi ystyried rhoi’r Gymraeg ar rywbeth yn rhywbeth mawr iawn,” meddai Ioan Talfryn.

“Bydd nifer o bobol yn chwilfrydig ar draws y byd wrth glywed iaith wahanol ar y rhaglen.”