Mae Pitching In, cyfres gomedi ddiweddaraf BBC Cymru, wedi cael ei beirniadu am ei hagwedd at Gymru.

Mae’n adrodd hanes y cymeriad Frank Hardcastle (Larry Lamb, un o actorion y gyfres Gavin and Stacey), perchennog maes carafannau ‘Daffodil Dunes’ sydd wedi symud o Loegr i’r Gogledd.

Mewn trêl ar gyfer y gyfres, mae cymeriad benywaidd (Hayley Mills) i’w chlywed yn dweud, “Mae’n hyfryd, galla i weld pam dy fod wedi cwympo mewn cariad â’r lle hwn”.

Mae’r trêl ar gyfer BBC Cymru yn hysbysebu “cyfres gomedi newydd sbon wedi’i gosod yng ngogledd Cymru” – ac mae nifer o bobol wedi dangos eu dicter ar waelod y neges ar y dudalen Twitter.

Ymhlith y cwynion mae portread y gyfres o’r gogledd a’r ffaith fod gan yr actorion acenion y de yn hytrach na’r gogledd, yn ogystal â’r ffordd y mae’n ymdrin â’r mewnlifiad o Saeson i Gymru.

Cefndir y gyfres

Mae Pitching In wedi’i gosod mewn maes carafannau “ar arfordir gogledd Cymru”, ac mae’n adrodd hanes tair cenhedlaeth o’r un teulu sy’n “gwneud y gorau o sefyllfa ryfedd ac weithiau anodd”.

Mae’r gyfres wedi’i chreu gan gwmni LA Productions, ac wedi’i hysgrifennu gan Johanne McAndrew ac Elliot Hope.

Mae Caroline Sheen a Ifan Huw Dafydd ymhlith y cast.

Ymateb y cast a’r BBC

“Unarddeg o flynyddoedd wedi i Gavin and Stacey ymddangos, rwy’n anelu am y gorllewin unwaith eto, gan gyfnewid Ynys Y Barri am Ynys Môn y tro hwn!” meddai Larry Lamb mewn datganiad.

“Rwy wrth fy modd o gael chwarae’r cymeriad Frank yn Pitching In – mae’n stori deimladwy, ddoniol a rhamantaidd ac yn cynnig golwg ddiddorol ar fywyd ar arfordir y gogledd-orllewin.”

“Mae angen mwy o ‘deimlo’n dda’ yn ein bywydau ac mae’r ddrama deuluol gynnes hon yn addo hynny,” meddai Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru.

“Drama gomedi am y teulu, cyfeillgarwch a chymuned a fydd yn dangos harddwch gogledd Cymru yw Pitching In.”