Mae’r ffilm Groundhog Day yn cael ei dangos 14 o weithiau’n olynol ar y sianel Sky Movies Comedy heddiw (Chwefror 2).

Chwefror 2 yw’r dyddiad sy’n cael ei ail-fyw drosodd a throsodd yn y ffilm, sy’n serennu Bill Murray ac Andie MacDowell.

Mae’n adrodd hanes gohebydd newyddion sy’n teithio mewn eira i dref Punxsutawney i adrodd am ddathliadau’r diwrnod pan fo twrlla (groundhog) yn darogan pryd fydd diwrnod cynta’r gwanwyn.

Ond gan ei fod e’n sinigaidd, mae’n cael ei ddal yn yr un diwrnod dro ar ôl tro nes ei fod yn newid ei agwedd.

Mae’r ffilm yn cael ei dangos rhwng 6yb heddiw a 6yb yfory (dydd Sul, Chwefror 3).