Mae S4C wedi cyhoeddi mai un cwmni fydd yn gyfrifol am wasanaeth isdeitlo’r sianel am y pedair blynedd nesaf.

Bydd Cyfatebol, sydd â swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth a Chaerdydd, yn gyfrifol am isdeitlau Cymraeg a Saesneg rhaglenni S4C.

Yn hanesyddol, roedd tri chwmni gwahanol yn darparu’r gwasanaeth isdeitlo, ond mae’r sianel wedi penderfynu penodi un cwmni yn sgil newidiadau fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, mae’r newidiadau hynny’n cynnwys y BBC yn dod yn gyfrifol am “holl swyddogaethau darlledu a thechnegol S4C yn ystod chwarter cyntaf 2019” a “swyddogaethau technegol y ddau sefydliad [yn c]ael eu lleoli ar y cyd yn adeilad y BBC yn y Sgwâr Canolog wedi hynny”.

Mae cwmni CTV wedi cadw’r cytundeb ar gyfer sain ddisgrifio’r sianel, a bydd ITV SignPost yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth arwyddo ar y sgrin.