“Mae bod yn Gymraes yn rhywbeth arbennig iawn,” meddai Ruth Jones, yr actores adnabyddus o Borthcawl.

Bydd seren a chyd-awdur y gyfres Gavin And Stacey, a gafodd ei magu ym Mhorthcawl, yn westai ar raglen Desert Island Discs ar Radio 4 heddiw (dydd Sul, Ionawr 13, 11.15yb).

Mae hi’n dweud bod cael ei magu gyda chymeriadau doniol cymuned glos yn y de wedi ei hysbrydoli i greu rhai o’i chymeriadau mwyaf adnabyddus.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu ac wedi ymddangos yn y cyfresi Saxondale a Stella.

“Ces i fy magu yn ne Cymru, ac mae’r bobol yn wych,” meddai wrth y rhaglen.

“Fe fyddech chi’n cyfarfod â phobol wych nad ydyn nhw’n gwybod eu bod nhw’n ddoniol, nad ydyn nhw’n gwybod fod yr hyn maen nhw’n ei ddweud yn ddoniol.

“Dw i jyst yn caru dathlu hynny, mewn gwirionedd.

“Dw i’n falch iawn o fod yn Gymraes. Dw i’n caru hynny.

“Mae bod yn Gymraes yn rhywbeth arbennig iawn.”

Hunaniaeth

Mae Ruth Jones bellach yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi’i gwreiddio ym myd yr enwogion.

Mae hi wedi cydweithio â Tom Jones a Rob Brydon (ar gyfer Comic Relief), ac wedi cyfarfod â Barack Obama, cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau.

Mae bod yn Gymraes wedi ei helpu yn y fath amgylchfyd, meddai.

“Mae’n fath o flanced cysur i gael mynd i mewn i fy acen Gymreig gref,” meddai am ei hacen oedd wedi creu argraff ar Barack Obama mewn cinio yn Downing Street yn 2013.