Mae dyn o’r Unol Daleithiau, a gafodd ei ddal yn potsian, wedi cael ei orchymyn i wylio’r ffilm Bambi fel rhan o’i gosb.

Mae David Berry Jr o Missouri wedi cael ei orchymyn i wylio’r ffilm Disney enwog o leiaf unwaith y mis ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o ladd cannoedd o geirw.

Yn dilyn achos llys, mae yntau, ei dad, ei ddau frawd a dau arall wedi cael eu gwahardd rhag hela a physgota, yn ogystal â derbyn gorchymyn i dalu $51,000 (£40,000) mewn dirwyon a chostau.

Mae David Berry Jr hefyd wedi cael ei ddedfrydu i 120 diwrnod mewn carchar am dorri rheolau’n ymwneud ag arfau.

Ymchwiliad

Roedd yr awdurdodau wedi arestio’r heliwr ac aelodau o’i deulu ym mis Awst yn dilyn ymchwiliad naw mis a oedd hefyd yn cynnwys achosion yn Kansas, Nebraska a Canada.

Yn ôl Adran Gadwriaethol Missouri, fe arweiniodd yr ymchwiliad at gyhuddo 14 o drigolion Missouri o 230 o achosion ar draws 11 sir.

Dywed ymchwilwyr fod mab David Berry Jr, Eric, wedi cael ei ddal yn ddiweddarach gyda pherson arall yn hela ceirw liw nos.

Fe ddechreuodd yr ymchwiliad i deulu’r Berry ar ddiwedd 2015 pan dderbyniodd yr asiantaeth gadwriaethol wybodaeth ynglŷn â photsian ceirw yn Lawrence County.