Mae sinema yn Abertawe yn gwahodd cŵn i ddangosiad arbennig o’r ffilm Nadolig, The Nightmare Before Christmas nos fory (dydd Iau, Rhagfyr 6).

Mae’r ffilm yn cael ei ddangos gan Cinema & Co yng nghanol y ddinas, fel rhan o bartneriaeth arbennig gyda chwmni Dog Furiendly.

Mae’r lleoliad yn trefnu digwyddiadau arbennig i gŵn yn gyson ers mis Chwefror, pan lansiodd y gyfres gyda dangosiad o’r ffilm Homeward Bound. Roedd 30 o gŵn yn y digwyddiad hwnnw.

Mae tocynnau’n costio rhwng £11 a £18.50, ond mae mynediad am ddim i gŵn, gyda rhybudd fod angen dod â blanced er mwyn osgoi damweiniau wrth eistedd ar sedd.

Y ffilm

Mae’n chwarter canrif erbyn hyn ers i ffilm Tim Burton, The Nightmare Before Christmas gyrraedd y sinemâu am y tro cyntaf.

Mae’n dilyn hynt a helynt Jack Skellington, brenin y pwmpen, sydd wedi diflasu ar Galan Gaeaf, ac yn mentro i fyd Christmastown.

Mae’n cynllwynio i herwgipio Siôn Corn, gan ddod yn Siôn Corn ei hun.

Ac yn goron ar y cyfan, mae un o’r sgerbydau’n gi.