Fe fydd gemau rygbi’r gystadleuaeth Guinness PRO14 yn cael eu darlledu ar S4C am y tair blynedd nesa’.

Daw hyn ar ôl i S4C ddod i gytundeb â Celtic Rugby, sef y corff sy’n rheoli’r gystadleuaeth, i ddarlledu’r gemau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae hyn yn golygu y bydd 17 o gemau’r tymor yn cael eu darlledu’n fyw ar S4C, sy’n cynnwys gemau darbi dros gyfnod y Nadolig a’r Calan.

Pe bai rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol wedyn, fe fydd y gêm gyfan yn cael ei darlledu ar S4C. Fe fydd gemau eraill yn cael eu dangos yn llawn hefyd, er nad yn fyw.

“Newyddion da”

“Mae’r cytundeb dair mlynedd yma yn tanlinellu ein ymrwymiad i ddarlledu rygbi drwy’r iaith Gymraeg a’r gobaith yw bod y cyhoeddiad yma yn newyddion da i holl gefnogwyr rygbi Cymru,” meddai Prif Weithredwr S4C, Owen Evans.

“Mae’n bwysig i ni ac i gynulleidfa S4C ein bod ni’n gallu parhau i ddangos y Guinness PRO14 yn rhad ac am ddim.”