Mae Lauren Mia Jones o Gwm Tawe wedi cyrraedd rownd nesaf cyfres ganu ITV, The Voice Kids UK.

Canodd hi’r gân ‘All I Want’ gan Kodaline, un o ganeuon y ffilm The Fault In Our Stars.

Fe wnaeth Danny Jones a Pixie Lott droi eu cadeiriau ar gyfer y ferch 14 oed sy’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cwmtawe.

Yn y cyflwyniad i’w pherfformiad, cafodd fideo ei dangos ohoni’n canu yng nghyngerdd Nadolig ei hysgol, ac eglurodd ei bod hi wedi recordio nifer o’i chaneuon ar MP3 i’w thad, Martin pan oedd e mewn coma yn yr ysbyty.

Mae’n cael ei hyfforddi gan Tanya Harrison sydd wedi cydweithio â chôr CF1.