Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actores Helen Griffin, sydd wedi marw’n 59 oed.

Roedd hi’n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y ffilm am Abertawe, Twin Town.

Dywedodd ei hasiant ei bod hi’n “brydferth, yn dalentog, yn ddoniol, yn glyfar ac yn fenyw ysbrydoledig”.

Ychwanegodd cyfarwyddwr Twin Town, Kevin Allen fod “y diwydiant ffilm yng Nghymru wedi colli rhywun arbennig iawn”.

Roedd hi hefyd wedi ymddangos yn Doctor Who, a’r ddrama lwyfan am wraig Dylan Thomas, Caitlin.

Yn y Gymraeg, roedd hi’n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn Solomon a Gaenor a Iechyd Da.