Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr teledu, Terry Dyddgen-Jones, a fu farw yn dilyn salwch byr.

Un a oedd yn adnabod Terry Dyddgen-Jones, a fu’n cyfarwyddo rhaglenni fel Coronation Street, EastEnders a Pobol y Cwm, yw’r ffotograffydd, Emyr Young.

Roedd y ddau’n cyd-letya yn Aberystwyth yn ystod y 1970au pan oedden nhw’n actorion yn Theatr y Werin.

Mae Emyr Young yn dweud bod y ddau’n “ffrindie mynwesol” ers y dyddiau hynny, ac wedi cwrdd â’i gilydd yn “achlysurol” dros y blynyddoedd.

“Pryd bynnag roeddwn i’n cwrdd, roeddwn i’n sôn am yr hen ddyddie, fel mae pobol yn eu gwneud yn ein hoedran ni, ac yn rhamantu tamed bach am y cyfnod,” meddai wrth golwg360.

“Roedd e’n gymeriad hoffus iawn. Doedd e ddim wedi newid dim. Chi’n gwybod fel mae rhai pobol yn newid pan maen nhw’n mynd i fyd teledu ac yn y blaen, ond roedd ei draed e’n llythrennol ar y ddaear.

“Roedd e’n broffesiynol iawn, ac yn deall ei waith i’r dim.”

“Cyfarwyddwr talentog”

Wrth bwyso a mesur cyfraniad Terry Dyddgen-Jones i fyd y cyfryngau wedyn, mae’r ffotograffydd yn dweud y byddai’n cael ei gofio fel “cyfarwyddwr talentog”.

“Sa’ i’n gweud ei fod e’n actor talentog, ond yn sicr roedd e’n gyfarwyddwr talentog,” meddai eto.

“Roedd y ddawn gydag e i dynnu pethau at ei gilydd a gweld y llun llawn, yn hytrach na gweld mewn darne.

“Roedd e’n gweithio i Coronation Street, ac fe fuodd ên gwneud EastEnders, felly roedd e’n fawr ei barch ym myd sebon.”

Rhaglenni S4C

Yn fwy diweddar, bu hefyd yn gyfarwyddwr ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C – Parch a Byw Celwydd rhwng 2016 a 2018.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys, S4C, ”Bu S4C yn ffodus iawn o allu denu cyfarwyddwr a chynhyrchydd mor ddeinamig a hael gyda’i brofiad â Terry Dyddgen-Jones i weithio ar eu cynyrchiadau a bu wrth galon llwyddiant nifer o’n cyfresi drama mwyaf llwyddiannus. Fe fydd y diwydiannau creadigol yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yn dlotach heb ei angerdd a’i frwdfrydedd byrlymus dros greu drama boblogaidd o’r safon ucha’.”

Wrth dalu teyrnged iddo ar Twitter, dywedodd awdur Parch, Fflur Dafydd, ei fod wedi gwneud cyfraniad mawr i fyd teledu Cymru a’r Deyrnas Unedig.

“Yn flin iawn i glywed ein bod wedi colli Terry, cyfarwyddwr nodedig a gyfrannodd gymaint at deledu Cymru a’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Braint oedd ei gael yn rhan o deulu #Parch am y ddwy flynedd ddiwethaf. Cymeriad hoffus dros ben. Yn meddwl am ei deulu a’i ffrindiau yn eu colled enbyd.”

Teyrngedau eraill

Ymhlith y teyrngedau sydd wedi’u rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhai a fu’n cydweithio â’r cyfarwyddwr dros y blynyddoedd.

Mae’r rheiny’n cynnwys yr actorion Llinor ap Gwynedd a Dyfan Rees o Pobol y Cwm, a Kai Owen o Hollyoaks.