Daeth Côr Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn i’r brig yng nghategori iau cystadleuaeth Côr y Flwyddyn Songs of Praise.

Cyrhaeddodd yr ysgol o’r Porth yn y Rhondda y rownd derfynol ar ddiwedd y rownd gyn-derfynol yng nghanolfan Pontio ym Mangor.

Collodd Ysgol y Strade, Llanelli yn rownd derfynol y categori hŷn.