Mae Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi mai Carys Ifan sydd wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr cyntaf ar ganolfan S4C, Yr Egin.

Mae Carys Ifan wedi gweithio ar brosiectau ffilm, teledu, marchnata, a theatr, ledled Cymru – yn eu plith, mae digwyddiad Y Bont i Theatr Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a Gŵyl Nôl a Mla’n yn Llangrannog.

Mae’n hanu o Landudoch, Sir Benfro, yn byw yn Llangrannog, Ceredigion a threuliodd rhai blynyddoedd yng Nghaerdydd yn gweithio yn y diwydiannau creadigol.

Mae’n dechrau yn ei swydd yr wythnos hon.

Cyffrous

“Rwy’n hynod o gyffrous wrth dderbyn y cyfle euraidd yma i arwain ar waith Canolfan S4C Yr Egin wrth i ni ddatblygu clwstwr creadigol a chreu yr amgylchedd cywir i syniadau, cwmnïau a chymunedau flaguro,” meddai Carys Ifan.

“Bydd y cydweithio, cyfathrebu a rhyngweithio triphlyg rhwng y tenantiaid, y gymuned a’r Brifysgol yn allweddol i ddatblygu cynnwys arbrofol, perthnasol ac uchelgeisiol ac i sicrhau bod cynnwys Cymraeg nid yn unig yn manteisio ond yn creu’r cyfleoedd diweddaraf i ddiwallu ac ysgogi cynulleidfaoedd amrywiol – adref a ledled y byd.”

Yr Egin

Mae canolfan yr Egin – sef cartref newydd S4C – wedi derbyn tipyn o feirniadaeth, yn bennaf oherwydd yr adleoliad staff fydd yn dod yn ei sgil, a’r mater o ariannu’r adeilad.

Ym mis Tachwedd y llynedd mi wnaeth un o gyn-reolwyr BBC Cymru, Gareth Price, alw buddsoddiad £3m gan Lywodraeth Cymru yn “hurt”.