Mae perchennog sinema yn Abertawe wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n barod i ystyried sefydlu noson ffilm ddeufisol i gŵn.

Daw sylwadau perchennog Cinema & Co, Anna Redfern ar ôl i 30 o gŵn fynd yno neithiwr i wylio’r ffilm Homeward Bound sy’n adrodd am anturiaethau cŵn sydd wedi cael eu gadael gyda ffrindiau eu perchnogion sydd wedi mynd ar wyliau.

Cafodd yr holl docynnau ar gyfer y noson eu gwerthu ar ôl i’r sinema gael awgrym ar gyfer y noson gan Adele Pember, sylfaenydd y wefan Dog Furiendly, sydd wedi trefnu nosweithiau tebyg yn y gorffennol yn Llundain a Glasgow.

Ond mae lle i gredu mai dyma’r noson gyntaf o’r fath yng Nghymru – ac fe allai ddod yn ddigwyddiad rheolaidd yn dilyn ei lwyddiant yn ystod ‘Blwyddyn y Ci’.

Dywedodd Anna Redfern wrth golwg360: “Byddwn i’n dweud bod 30 o gŵn i gyd, ac roedd un o’r rhai bach mewn pram! Fe gawson ni bob math o gŵn.”

Mae’n cyfaddef ei bod hi’n teimlo’n “gynhyrfus” cyn y digwyddiad – ond dywedodd fod yr holl gŵn wedi bihafio gydol y noson.

“Ro’n i’n meddwl y byddai cael sinema’n llawn cŵn yn gwylio ffilm am gŵn yn arwain at drafferthion. Roedd nifer ohonyn nhw’n cyfarth ar y dechrau!

“Ond ar ôl i’r ffilm ddechrau, wnaethon nhw dawelu ac ymlacio ac roedd hi’n noson lwyddiannus iawn.”

‘Ambell ddamwain fach’

Ychwanegodd fod “ambell ddamwain fach” a bod ambell gwsmer wedi codi pryderon am fod ganddyn nhw alergedd i gŵn. Ond yn y lleiafrif roedd y rheiny, meddai Anna Redfern.

“Daeth y glanhawyr i mewn y bore ma ac maen nhw wedi glanhau’r lle yn ofalus iawn ac ry’n ni wedi newid y blancedi a’r gorchuddion, ac wedi rhoi blancedi ychwanegol i lawr i warchod y celfi. Dylen ni fod yn gallu cael gwared ar yr holl flew!”

Er bod y noson yn llwyddiant ysgubol, cyfaddefodd fod “ambell ddamwain fach” wedi bod yn ystod y noson.

Ychwanegodd: “Roedd ambell ddamwain fach! Roedd y perchnogion yn ofidus ond roedd llawer o gynnyrch glanhau wrth law ar gyfer y fath ddigwyddiadau, felly doedd hi ddim yn rhy ddrwg.

“Mae’n rhan o’n hethos i wneud y sinema’n hygyrch i bawb, felly fe allen ni edrych ar wneud digwyddiad deufisol.”