Mae ffilm newydd yn llawn actorion lleol o ogledd Ceredigion wedi’i rhyddhau ar YouTube yr wythnos hon, ac mae’n olrhain hanes y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r ffilm, Cofia’n Gwlad, yn dilyn hanes bachgen o’r enw ‘Evan John’ sy’n ymuno â’r fyddin gyda’i fam yn torri’i chalon, ac mae’r ferch, ‘Mati’, hefyd yn gadael y fro i weithio’n nyrs yn un o ysbytai Birmingham.

Er nad yw union stori’r ffilm yn seiliedig ar hanes go iawn, “mae’r cymeriadau’n ddatblygiad o’r llythyron a gafwyd o’r arddangosfa,” meddai Euros Lewis, sydd wedi bod wrth gefn y gwaith cynhyrchu gyda chwmni theatr Troedyrhiw yn Nyffryn Aeron.

Ar gof a chadw

Mae’r ffilm yn codi o brosiect cymunedol gan gapeli yng ngogledd Ceredigion gan gynnwys Tal-y-bont, Capel Bangor, Bow Street a Phenrhyn-coch.

Mi wnaethon nhw benderfynu coffáu’r Rhyfel Mawr drwy gasglu llythyron a dogfennau o’r cyfnod ynghyd, a chynnal arddangosfa.

Bu hynny wedyn yn sbardun i’r ddrama wnaethon nhw ei llwyfannu yn 2014, a fersiwn o’r ddrama honno yw’r ffilm newydd.

Yn ôl Euros Lewis, bwriad y ffilm yw “crynhoi’r wybodaeth leol” a rhoi’r hanes ar gof a chadw.

“Un nodwedd oeddem ni’n sylwi arni oedd faint o ferched aeth i ffwrdd i weithio mewn ysbytai,” meddai.

Actorion lleol

Mae’r ffilm yn cynnwys actorion a chyn-aelodau o’r clybiau ffermwyr ifanc lleol gan gynnwys Dewi Jenkins, Geraint Jenkins, Rhian Evans, Rhydian Wilson a Carys Mai.

Mi gafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Nghanolfan Libanus, Y Borth yr wythnos diwethaf, sef y capel sydd wedi’i droi’n sinema a bwyty arbennig.