Mae’r golygydd oedd yn gyfrifol am y rhaglen Newsnight ddadleuol am yr iaith Gymraeg dri mis yn ôl, wedi ennill dyrchafiad ac yn ymuno â Channel 4.

Yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni mi gafodd rhaglen Newsnight ei darlledu dan olygyddiaeth Ian Katz yn holi os yw’r Gymraeg yn “help neu’n hindrans” i’r genedl.

Yn rhan o’r rhaglen honno roedd cyfranwyr di-Gymraeg yn gynnwys Julian Ruck sydd wedi beirniadu “cost yr iaith Gymraeg”.  Fe arweiniodd y rhaglen at ddadl danllyd ynghyd â deiseb yn galw am adolygiad annibynnol o sut y mae’r BBC yn portreadu’r iaith Gymraeg.

Cefndir

Mae Ian Katz wedi bod yn olygydd i Newsnight ers 2013 ac wedi dilyn gyrfa ym myd newyddiaduraeth gyda phapur newydd The Guardian cyn hynny.

Wrth i’r BBC gyhoeddi eu cylch cyflogau eleni, mi ddaeth hi i’r amlwg ei fod yn ennill cyflog o £151,600 gyda’r Gorfforaeth.

Fe fydd yn dechrau ar ei waith yn Gyfarwyddwr Rhaglenni i Channel 4 ym mis Ionawr.