Harvey Weinstein CBE - ar hyn o bryd (David Shankbone CCA3.0)
Mae ymgyrch ar droed i gael gwared ar un o anrhydeddau’r cynhyrchydd ffilm, Harvey Weinstein, sy’n wynebu cyfres o honiadau’n ymwneud ag ymosodiadau rhywiol.

Mae’r ymgyrch yn cael ei arwain gan Chi Onwurah, Aelod Seneddol Llafur Newcastle, wrth iddi alwam ddileu’r CBE a gafodd y dyn pwerus o Hollywood.

Mae wedi ysgrifennu at gadeirydd y Pwyllgor Colli Anrhydeddau, Jeremy Heywood, yn gofyn am ddileu’r teitl.

Gwahardd o’r Academi

Fe gafodd Harvey Weinstein y CBE yn wreiddiol am “gyfraniad arbennig i’r diwydiant ffilm Prydeinig”.

Ond erbyn hyn mae wedi’i wahardd o Sefydliad yr Academi sy’n gyfrifol am ddyfarnu gwobrau’r Oscars, ac mae Academi Brydeinig Celfyddydau Ffilm a Theledu (BAFTA) wedi dweud eu bod nhw’n dileu ei aelodaeth ohoni hithau..

Daw hyn yn wyneb honiadau gan sêr Hollywood iddo aflonyddu ac ymosod yn rhywiol arnyn nhw – mae tair actores o wledydd Prydain wedi gwneud honiadau tebyg, gan gynnwys treisio.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i honiadau yn ei erbyn yn 2010, 2011 a 2015.