Gwyl Ffilm Iris, Caerdydd (Llun: Gwobrau Iris)
Mae prif enillydd Gŵyl ffilm Iris yng Nghaerdydd wedi ennill £30,000 i greu ffilm fer newydd yng Nghymru.

Mi enillodd Mikael Bundsen, cyfarwyddwr o’r Swistir, y wobr ryngwladol am ei ffilm fer Mother Knows Best.

 

Yn ôl Brian Robinson, Cadeirydd y beirniaid rhyngwladol, roedd y ffilm “wedi’i sgriptio’n arbennig ac yn ffilm fer ddwys yn defnyddio economi wych o saethiadau i ddweud stori fyd-eang, bwerus, wedi’i hactio’n hyfryd lle mae perthynas wahanol dyn ifanc hoyw gyda’i deulu yn cael ei arddangos.”

Mae gwobrau Iris yn ddathliad chwe diwrnod o ffilmiau LGBT yng Nghaerdydd, ac mae’n gyfle i arddangos 35 o ffilmiau rhyngwladol a 15 o enwebiadau Prydeinig.

Gwobrau eraill

Cafodd y Wobr Ieuenctid ei noddi eleni gan Brifysgol Caerdydd gyda’r ffilm Lily yn ei hennill gan Graham Cantwell o Iwerddon.

Ffilm We Love Moses enillodd y ffilm Brydeinig orau, a’r actorion Miles Szanto o’r cynhyrchiad Teenage Kicks a Fawzia Mirza o Signature Move yn ennill y gwobrau am y perfformiadau gorau.